free maps for 11 year-olds

explorer map cover

Cyhoeddi Cynllun 2008

Bydd y wefan ar agor i archebu eich mapiau Explorer ar raddfa 1:25 000 yn rhad ac am ddim o 19ed Awst 2008. Gwelwch yr amserlen isod i gael mwy o fanylion.


Has my school ordered?

English language version

Archebu addysgwyr cartref

1. Amserlen cynllun mapiau am ddim ar gyfer 2008

2. Cwestiynau a ofynnir yn fynych

3. Telerau ac amodau a pholisi preifatrwydd

4. Adnoddau dysgu mapiau am ddim

5. Canllaw archebu mapiau am ddim bob yn gam.

6. Dogfennau cyfieithu Cymraeg

Time Team
Cystadleuaeth Time Team
Eleni, mae Time Team unwaith eto wedi cynnig yn garedig cynnal diwrnod dysgu byw yn y gwyllt ar gyfer yr wyth enillydd yn y gystadleuaeth mapiau rhad ac am ddim. Dosberthir ffurflenni cais gyda’r mapiau i'r holl ysgolion sy’n archebu erbyn y dyddiad cau o 30 Tachwedd 2008.

Llinell Gymorth Mapiau Rhad ac am Ddim

Gwasanaethau Cwsmeriaid / Customer Services Arolwg Ordnans  Ordnance Survey,
SOUTHAMPTON, SO16 4GU

Linell Gymorth Gymraeg: 08456 05 05 04.

Ffacs: 023 8079 2615.

E-bost freemapenquiries@ordnancesurvey.co.uk

Llinellau ar agor 8:30 yb i 5:30 yp, Dydd Llun i Ddydd Gwener, heblaw gwyliau'r banc.

1. Amserlen ar gyfer archebu mapiau am ddim 2008

Awst/
Medi

Bydd llythyr yn cael ei anfon at y pennaeth daearyddiaeth mewn ysgolion sydd â disgyblion cymwys, yn rhoi enw defnyddiwr unigryw a chyfrinair. Gofynnir iddynt enwebu cydlynydd mapiau rhad ac am ddim, a rhoi gwybod i’r cydlynydd beth yw niferoedd manwl gywir y disgyblion sy'n ymuno â’r flwyddyn

Awst/
Medi

Mae'r cyfleuster gwefan archebu ar gael. Os ydych wedi archebu o'r blaen ac eisiau yr un map eto, bydd hyn yn hawdd iawn; does dim ond eisiau eich enw, cyfrinair a nifer y disgyblion wrth law. Bydd rhaid ichi ddarllen a chytuno â’r Amodau a Thelerau ar gyfer cynllun 2008 ar y wefan cyn i chi archebu.

Os ydych eisiau map gwahanol eleni, byddwch yn gallu ei geisio.

Os nad ydych wedi archebu erioed o'r blaen, bydd ein gwefan yn eich arwain trwy'r broses archebu. Bydd y map sy'n berthnasol i god post eich ysgol yn ymddangos, ond byddwch yn gallu dewis un arall os ydych eisiau.

Bydd llinell gymorth ar gael.

Medi

Dechrau dosbarthu’r mapiau! Rydym yn gobeithio dosbarthu'r mapiau mor fuan â phosib. Y cyflymaf y rhowch eich archeb, y mwyaf tebygol y byddwch yn derbyn eich mapiau yn gynnar. Ond ni allwn warantu unrhyw ddyddiad dosbarthu penodol. Mae cyflenwi’r mapiau yma am ddim i ysgolion yn weithred enfawr a hwyrach y bydd oedi os bydd map yn aros i gael ei argraffu. Anfonir e-bost at gydlynydd mapiau rhad ac am ddim yr ysgol i roi gwybod iddo pryd cafodd y mapiau eu dosbarthu.

Rydym yn awgrymu bod ysgolion yn cynllunio’u gwaith medrau map ar gyfer tymor y gwanwyn er mwyn gwneud yn siŵr y bydd yr ysgol wedi derbyn y mapiau a’u bod ar gael i'r disgyblion

30 Tachwedd

Cyfleuster archebu ar y we yn cau.

31 Ionawr 2009

Y dosbarthu i ysgolion yn dod i ben. Mae ein llinell gymorth dal ar gael.

Nôl i'r brig

2. Cwestiynau a ofynnir yn fynych

Beth yw'r amserlen ar gyfer cynllun Mapiau rhad ac am ddim i ddisgyblion 11 oed 2008?
A yw f'ysgol i'n gymwys i gael mapiau rhad ac am ddim?
Ysgol arbennig ydym ni. A gaiff ein disgyblion ni fapiau?
Beth yn union fydd fy ysgol yn ei gael?
Sut fydda' i'n gwybod p'un a yw ein hysgol ni wedi archebu'r mapiau rhad ac am ddim ai peidio?
Beth ddylwn i ei wneud os na chaiff f'ysgol i lythyr yn ein gwahodd ni i archebu mapiau?
Sawl map sydd gennym hawl iddyn nhw?
Allwn ni gael dau fap wahanol?
Ydi hi'n bosib newid yr archeb ar ô l ei gosod?
Pa bryd fydd fy mapiau'n cyrraedd?
Sut bydd y mapiau'n cyrraedd?
Rydyn n'in dal i ddisgwyl am ein mapiau.
Cyrhaeddodd y mapiau anghywir!
Eiddo pwy yw'r mapiau mewn gwirionedd?
A allwn ni fynnu bod y mapiau'n cael eu cadw yn yr ysgol?
Rwyf newydd ddod o hyd i focsys o fapiau rhad ac am ddim na chafodd eu dosbarthu. Beth ddylwn i ei wneud?
A all ysgolion nad ydynt ym Mhrydain Fawr archebu mapiau rhad ac am ddim?
A all plant sy'n cael eu haddysg gartref archebu mapiau rhad ac am ddim?
Pam i'r Arolwg Ordnans benderfynu dosbarthu mapiau Explorer ar raddfa 1:25 000 yn rhad ac am ddim i ddisgyblion 11 oed?
Pam mae mapiau'n cael eu dosbarthu i ysgolion uwchradd yng Nghymru a Lloegr ond i ysgolion cynradd yn yr Alban?
Mae gen i ddisgyblion 11 oed yn fy nosbarth Primary 6. Pam na alla' i gael mapiau rhad ac am ddim iddyn nhw?
Beth ydi'r fagl?
Pwy alla' i gysylltu â nhw ynghylch fy archeb?
Pam mae angen cyfeiriad e-bost?
Alla ' i gael mapiau wedi'u lamineiddio?
Pan rydw i'n ceisio archebu fy mapiau, mae’r system archebu'n gwrthod derbyn y disgyblion rydw i wedi'i nodi.
A yw fy n grŵp sgowtiaid/geidiaid yn gymwys?
Mae gen i blant â nam ar eu golwg yn fy nosbarth. A fedra’ i gael copïau wedi’u mwyhau o’r mapiau ar eu cyfer?

Alla’ i gael dogfennaeth yn Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg?

Nôl i'r brig

A yw f'ysgol i yn gymwys i dderbyn y mapiau yn rhad ac am ddim?

Mae’r holl ysgolion ym Mhrydain Fawr sydd â disgyblion Blwyddyn 7/Primary 7 ar ddechrau tymor yr hydref 2008 yn gymwys i gael mapiau rhad ac am ddim, waeth beth yw eu statws ariannu neu pa fath o ysgol ydyn nhw.

Gallwch edrych a yw’ch ysgol wedi’i chynnwys yn ein cronfa ddata trwy glicio’r botwm ‘A ydi fy ysgol wedi archebu eto' ar yr hafandudalen. Os na allwch weld eich ysgol yn yr adroddiad hwn, a chithau o’r farn y dylech fod yn gymwys i wneud cais, ffoniwch ein llinell gymorth.

Nôl i'r brig

Ysgol arbennig ydym ni. A gaiff ein disgyblion ni fapiau?

Gall disgyblion ym Mlwyddyn 7/Primary 7 mewn ysgolion arbennig gael mapiau rhad ac am ddim. Yr ysgol fydd yn penderfynu p’un a fydd y mapiau hyn o fudd i ddisgyblion yn y grŵp blwyddyn penodol hwn, naill ai’n uniongyrchol neu, o bosibl, trwy weithgaredd y mae oedolion yn ei arwain. Os yw oed dysgu’ch disgyblion ar lefel blwyddyn 7, mae’n dderbyniol ichi archebu mapiau ar gyfer y disgyblion hyn er eu bod nhw lawer yn hŷn. Os oes angen mapiau ar gyfer plant rhannol ddall arnoch chi, cysylltwch â'r RNIB neu edrychwch ar yr awgrym arall ar waelod yr adran Cwestiynau Cyffredin hon.

Nôl i'r brig

Beth yn union fydd fy ysgol yn ei gael?

Un map plyg Explorer ar raddfa 1:25 000 yr Arolwg Ordnans i bob disgybl Blwyddyn 7/Primary 7 ar gofrestr yr ysgol ar ddechrau tymor yr hydref. Mae’r mapiau hyn i’r plant eu cadw. Maen nhw’n union yr un fath â’r rheiny sydd ar werth yn y siopau ar adeg eu hanfon.

Mae mapiau ychwanegol, a fydd yn eiddo i’r ysgol, ar gael i’r athrawon. Bydd athrawon yn gallu dewis faint o fapiau sydd eu hangen arnyn nhw hyd at uchafswm o 1 i bob 25 o ddisgyblion; h.y. pe baech yn archebu 76 o fapiau, byddem yn anfon 4 o fapiau athrawon atoch chi.

Bydd canllaw “Addysgu â Mapiau Rhad ac am Ddim yr Arolwg Ordnans” yn cael ei gynnwys ar yr un gymhareb. Gellir hefyd lawrlwytho’r adnodd hwn o’r wefan.

Copi o’r daflen “Darllen map heb drafferth yn y byd” i bob disgybl.

Llythyrau eglurhaol i rieni/gwarcheidwaid.

Sticeri i'r disgyblion wneud y mapiau'n iddyn nhw.

Nôl i'r brig

Sut fydda’ i’n gwybod p’un a yw ein hysgol ni wedi archebu’r mapiau rhad ac am ddim ai peidio?

Gofynnwch i’ch pennaeth daearyddiaeth a yw wedi cael llythyr oddi wrth yr Arolwg Ordnans yn cynnwys cyfrinair yr ysgol, a phwy mae wedi’i enwebu i fod yn gydlynydd eich ysgol. Yna, gofynnwch i’ch cydlynydd p’un a yw wedi archebu mapiau ai peidio.

Bydd pob ysgol ar ein cronfa ddata o ysgolion â disgyblion Blwyddyn 7/Primary 7 wedi cael y llythyr hwn oddi wrthym ni ar ddechrau tymor yr hydref, p'un a ydyn nhw wedi archebu mapiau ai peidio. Os yw'ch ysgol chi’n cynnwys disgyblion yn y grŵp blwyddyn hwn, a chithau heb gael llythyr, ffoniwch ein Llinell Gymorth.

Gallwch hefyd ddefnyddio’r botwm ‘A ydi fy ysgol wedi archebu eto’ ar yr hafandudalen i wirio statws eich archeb. Bydd yr adroddiad hwn yn dangos a yw’ch archeb wedi’i gosod ai peidio ac a yw’r mapiau wedi’u hanfon.


Llinell Gymorth Archebu: 0845 337 3133

Mae’r llinellau ar agor rhwng 8.30 yb a 5.30 yp, o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, ar wahân i wyliau'r banc.

Nôl i'r brig

Beth ddylwn i ei wneud os na chaiff f’ysgol i lythyr yn ein gwahodd ni i archebu mapiau?

Os oes disgyblion Blwyddyn 7 / Primary 7 yn eich ysgol, a’ch pennaeth daearyddiaeth heb gael llythyr ar ddechrau tymor yr hydref, bydd angen ichi gysylltu â’n Llinell Gymorth i gael cymorth pellach.

Llinell Gymorth Archebu: 0845 337 3133

Mae’r llinellau ar agor rhwng 8.30 yb a 5.30 yp, o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, ar wahân i wyliau'r banc.

Nôl i'r brig

Sawl map sydd gennym ni hawl iddyn nhw?

Mae gan bob ysgol sy’n gymwys hawl i gael un map fesul disgybl Blwyddyn 7/Primary 7 sy’n dechrau yn yr ysgol yn nhymor yr hydref 2008. Mae angen archebu mapiau ar y wefan at ddefnydd yr ysgol/yr athro wrth archebu ar gyfer y disgyblion, ar gymhareb o hyd at 1 i bob 25 disgybl.

Bydd ein gwefan yn eich rhwystro rhag archebu gormod o fapiau ac yn eich cyfeirio at ein Llinell Gymorth os bydd nifer y disgyblion sy’n dechrau yn eich ysgol wedi cynyddu’n sydyn.

Nôl i'r brig

Allwn ni gael dau fap gwahanol?

Mapiau o’r un teitl yn unig fydd yn cael eu cyflenwi i bob ysgol, a’r ysgol fydd yn dewis pa fap sydd fwyaf priodol ar gyfer y disgyblion. Mae’n ddrwg gennym na allwn gyflenwi archebion o fapiau cymysg.

Nôl i'r brig

Ydi hi’n bosib newid yr archeb ar ôl ei gosod?

Nac ydi. Byddwn ni’n argraffu’ch mapiau unwaith y bydd eich archeb wedi’i gosod a’i chyflwyno, ac nid yw’n bosib gwneud newidiadau pellach. Mae’n bwysig iawn sicrhau bod y manylion yn gywir adeg yr archebu. Gwiriwch eich manylion yn drylwyr cyn cyflwyno’ch archeb.

Nôl i'r brig

Pa bryd fydd fy mapiau’n cyrraedd?

Bydd mapiau’n cael eu dosbarthu i’r ysgolion cyn gynted ag yw’n ymarferol bosib. Cyntaf oll y byddwch chi’n archebu’r mapiau, cyntaf oll y byddwch chi’n debygol o’u derbyn. Ein nod yw dosbarthu cymaint o fapiau â phosib yn nhymor yr hydref, ond mae’n bosib mai ar ddechrau tymor y gwanwyn y dosberthir rhai mapiau oherwydd amserlenni argraffu. Rydyn ni’n argymell eich bod yn addysgu’ch uned sgiliau mapio yn nhymor y gwanwyn er mwyn sicrhau bod eich mapiau wedi cyrraedd. Anfonir neges e-bost at gydlynydd mapiau rhad ac am ddim pob ysgol yn rhoi gwybod iddyn nhw pan fydd y mapiau wedi’u hanfon.

Nôl i'r brig

Sut bydd y mapiau’n cyrraedd?

Bydd cludydd yn dod â’r mapiau i’r ysgol a bydd Mapiau rhad ac am ddim i ddisgyblion 11 oed wedi’i nodi’n glir ar y pecyn. Bydd enw’r pennaeth daearyddiaeth ar y pecyn, neu fe fydd wedi’i gyfeirio’n uniongyrchol at y pennaeth daearyddiaeth. Bydd angen llofnod wrth dderbyn y pecyn.

Nôl i'r brig

Rydyn ni’n dal i ddisgwyl am ein mapiau.

Os ydych chi’n pryderu nad ydych wedi derbyn eich mapiau, yna gwiriwch statws eich archeb, gan ddefnyddio’r botwm ‘A ydi fy ysgol wedi archebu eto' ar yr hafandudalen. Os pery’r broblem, yna cysylltwch â’r Llinell Gymorth mapiau rhad ac am ddim.

Llinell Gymorth Archebu: 0845 337 3133
Mae’r llinellau ar agor rhwng 8.30 yb a 5.30 yp, o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, ar wahân i wyliau'r banc.

Nôl i'r brig

Cyrhaeddodd y mapiau anghywir!

Cyn cysylltu â’r Llinell Gymorth, gwiriwch gynnwys y pecyn a’i gymharu â’r neges e-bost a oedd yn cadarnhau’ch archeb. Os yw’r mapiau yn y pecyn yr un fath â’r mapiau â archebwyd, ni allwn gyflenwi rhai eraill yn eu lle.

Llinell Gymorth Archebu: 0845 337 3133. Mae’r llinellau ar agor rhwng 8.30 am a 5.30 pm, o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, ar wahân i wyliau'r banc.

Nôl i'r brig

Eiddo pwy yw’r mapiau mewn gwirionedd?

Trosglwyddir perchnogaeth gyfreithiol ar y mapiau, y taflenni, y sticeri a’r llythyrau at y rhieni i’r disgyblion, unwaith y byddan nhw wedi’u dosbarthu. Dylid dosbarthu’r mapiau cyn pen chwe wythnos. Rhoddir gwybod i’r disgyblion, trwy gyfrwng y llythyr at y rhieni, y bydd disgwyl iddyn nhw fynd â’r mapiau i’r ysgol pan fydd athrawon yn gofyn iddyn nhw wneud hynny.

Bydd unrhyw gopïau ychwanegol sydd dros ben, wedi i holl ddisgyblion Blwyddyn 7/Primary 7 gael map, yn eiddo i’r ysgol i’w defnyddio fel adnodd dysgu.

Nôl i'r brig

A allwn ni fynnu bod y mapiau’n cael eu cadw yn yr ysgol?

Er mwyn sicrhau bod rhieni’n gwybod beth sy’n digwydd, mae’n rhaid anfon y mapiau, y taflenni ac ati adref, ynghyd â'r llythyr at rieni, cyn pen chwe wythnos. Fodd bynnag, fe all athrawon ofyn i ddisgyblion ddod â’r mapiau yn ôl i’r ysgol, a gallan nhw ofyn i ddisgyblion eu cadw yn yr ysgol am gyfnod pan maen nhw’n cael eu defnyddio ar gyfer dysgu.

Os yw disgybl yn gadael yr ysgol, mae’n rhaid caniatáu iddo fynd â’r map i’w ganlyn.

Mae’r Arolwg Ordnans yn annog disgyblion i ddefnyddio’r mapiau y tu allan i’r ysgol. Dengys ymchwil fod disgyblion yn cael y budd mwyaf pan maen nhw’n rhydd i edrych ar y map yn eu hamser eu hunain, neu gyda’u teulu. Yn ogystal â gwella’u sgiliau mapio, bydd plant yn datblygu dealltwriaeth ofodol ehangach o’u cymdogaeth, ynghyd â hyder i ddeall a defnyddio hawliau tramwy cyhoeddus. Byddan nhw’n eu defnyddio’n aml wrth fforio’u hamgylchedd lleol ehangach, ar droed ac ar feic. Dywed teuluoedd fod y mapiau’n ysgogi ymweliadau â lleoedd newydd, a dod o hyd i lwybrau gwahanol i leoedd sydd eisoes yn gyfarwydd.

Nôl i'r brig


Rwyf newydd ddod o hyd i focsys o fapiau rhad ac am ddim na chafodd eu dosbarthu. Beth ddylwn i ei wneud?

Os ydych chi’n amau na chafodd unrhyw rai o fapiau y llynedd eu dosbarthu, yna mae angen ichi wneud rhywbeth yn ei gylch. Yn gyntaf, gofynnwch a dderbyniodd disgyblion fapiau y llynedd. Os na wnaethan nhw, a’r disgyblion hynny gyda chi o hyd, dosbarthwch y mapiau iddyn nhw os gwelwch yn dda. Gwell hwyr na hwyrach! Fodd bynnag, ni fydd eich disgyblion yn diolch ichi am y ffaith fod y gystadleuaeth drosodd. Sylwch fod eich ysgol wedi cytuno, wrth archebu’r mapiau, i’w trosglwyddo i’r plant, ac mae peidio â gwneud hynny’n golygu bod y telerau a’r amodau wedi’u torri.

Os yw’n amlwg mai mapiau dros ben ydyn nhw wrth i gopïau athrawon grynhoi, a chithau o’r farn na fydd angen mwy o gopïau i athrawon eleni, yna a fyddech cystal ag archebu llai o fapiau yn ôl y gofyn. Gwelwch ‘Beth yn union fydd fy ysgol yn ei gael’?

Os yw dyddiad y marc post ar y bocsys yn mynd yn ôl sawl blwyddyn, yna gall y mapiau hyn fod yn hen a dylid eu dychwelyd at yr Arolwg Ordnans. Nid ydym yn argymell rhoi hen fapiau i ddisgyblion oherwydd gall y fanyleb fod wedi newid a gallai hyn eu camarwain.

Os hoffech gyngor pellach ar yr hyn y dylid ei wneud, yna cysylltwch â’n tîm gwasanaethau i gwsmeriaid.

Nôl i'r brig

A all ysgolion nad ydyn nhw ym Mhrydain Fawr archebu mapiau rhad ac am ddim?

Na allant. Mae’r cynnig hwn ar gyfer ysgolion mewn ardaloedd rydyn ni’n eu mapio yn unig, sef Cymru, Lloegr a’r Alban.

Nôl i'r brig

A all plant sy’n cael eu haddysgu gartref archebu mapiau rhad ac am ddim?

Gallant. Mae plant sy’n cael eu haddysgu gartref yn gymwys i gael map rhad ac am ddim cyn belled ag y bydden nhw ym mlwyddyn 7 eu haddysg ar y pryd. Yn benodol, fe ddylen nhw fod yn 11 oed ar ddechrau tymor yr hydref 2008.

Bydd angen i rieni glicio ar fotwm Home Educator ar y wefan, lle bydd angen llenwi'r ffurflen a'i chyflwyno. Unwaith y bydd y wybodaeth hon wedi’i derbyn, bydd eich archeb yn cael ei gosod yn y system archebu. Os yw’ch plentyn/plant yn cael ei addysgu/eu haddysgu mewn grŵp, yna bydd angen i'r rhiant lenwi’r ffurflen ar gyfer ei blentyn/ei blant ei hun.

Dylech fod yn ymwybodol y dilëir eich manylion o’n cronfa ddata unwaith y daw y cynllun i ben, ac na fydd y manylion yn cael eu rhannu â thrydydd parti.

Nôl i'r brig

Pam i’r Arolwg Ordnans benderfynu dosbarthu mapiau Explorer ar raddfa 1:25 000 yn rhad ac am ddim i ddisgyblion 11 oed?

Cafodd menter Mapiau rhad ac am ddim i ddisgyblion 11 oed ei lansio’n wreiddiol fis Mawrth 2002, yn dilyn ymchwil a ddangosodd:

Fod mapiau ar raddfa 1:25 000 yn brin iawn mewn ysgolion, i’r fath raddau bod athrawon yn cael anhawster wrth gyflenwi cwricwlwm cenedlaethol Cymru a Lloegr yng Nghyfnod Allweddol 3, lle mae addysgu â’r mapiau hyn yn ofyniad gorfodol. Nid oedd yn debygol y gallai ysgolion wella stociau mapiau gyda’r cyllidebau a oedd ganddyn nhw.

Roedd gan y rheiny yr oedd mapiau ar gael iddyn nhw sgiliau mapio mwy datblygedig o lawer.

Yn aml, nid oedd gan blant dan anfantais unrhyw fapiau y gallen nhw eu defnyddio gartref.

Tueddai mapiau yn y cartref fod yn eiddo i oedolion. Ni allai plant eu defnyddio fel y mynnen nhw, hyd yn oed pan oedden nhw ar gael.

 

Yn fyr, bwriad y cynllun Mapiau rhad ac am ddim i ddisgyblion 11 oed yw darparu map i bob plentyn i'w gadw ei hun, waeth beth fo’i amgylchiadau gartref neu yn yr ysgol, a hynny yn y cyfnod o’i yrfa ysgol lle byddai’r map yn fwyaf tebygol o fod fwyaf defnyddiol. Nod y cynllun hefyd oedd gwella adnoddau mapiau ysgolion, trwy ddarparu mapiau ychwanegol i athrawon.

Mae’r cynllun wedi dosbarthu dros 700,000 o fapiau i ddisgyblion bob blwyddyn trwy eu hysgolion. Erbyn diwedd 2008, bydd y cyfanswm yn cyrraedd dros 4.5 miliwn o fapiau.

Nôl i'r brig

Pam mae mapiau’n cael eu dosbarthu i ysgolion uwchradd yng Nghymru a Lloegr ond i ysgolion cynradd yn yr Alban?

Dosberthir mapiau i ddisgyblion ym mlwyddyn 7 eu haddysg, waeth beth fo’r math o ysgol maen nhw’n ei mynychu neu ym mha wlad ym Mhrydain Fawr maen nhw’n byw. Golyga hyn fod mapiau’n cael eu dosbarthu ar y cyfan i ysgolion cynradd yn yr Alban.

Mae plant yr Alban hyd at chwe mis yn iau (ar gyfartaledd) na disgyblion yn yr un grŵp blwyddyn yng Nghymru neu Loegr. Fodd bynnag, nid yw defnyddio mapiau’r Arolwg Ordnans yn orfodol yng nghwricwlwm S1 yr Alban, ac mae disgyblion hefyd yn fwy tebygol o deithio pellteroedd mwy maith i ysgol uwchradd na disgyblion yng Nghymru a Lloegr. Roedd ein hymchwil wedi pwysleisio’r buddion penodol a ddaw i ran plant pan maen nhw’n berchen ar fap sy’n dangos eu cartref a’u hysgol. Felly, fe benderfynwyd dosbarthu’r mapiau mewn ysgolion cynradd yn yr Alban.

Nôl i'r brig

Mae gen i ddisgyblion 11 oed yn fy nosbarth Primary 6. Pam na alla’ i gael mapiau rhad ac am ddim iddyn nhw?

I un grŵp blwyddyn yn unig y gall yr Arolwg Ordnans ddosbarthu mapiau, ac mae wedi dewis gwneud hyn i Flwyddyn 7. Fodd bynnag, nid yw’r wasg a’r cyhoedd yn deall cysyniad grwpiau blwyddyn yn dda, ac 11 yw oedran y disgyblion sy’n cyfateb agosaf. Dyna pam felly ein bod yn sôn am Fapiau rhad ac am ddim i ddisgyblion 11 oed.

Bydd POB plentyn yng Nghymru a Lloegr yn 11 oed ar ddechrau Blwyddyn 7, felly bydd rhai ohonyn nhw eisoes yn 11 oed erbyn diwedd Blwyddyn 6.

Yn yr Alban, pan fydd plant yn dechrau ym Mlwyddyn 7, bydd rhai ohonyn nhw eisoes yn 11 oed ac eraill yn dal i fod yn 10 oed. Ar ddiwedd eu Blwyddyn 7, bydd POB UN yn 11 oed o leiaf, a bydd rhai yn 12 oed.

Nôl i'r brig

Beth ydi’r fagl?

Nid oes unrhyw fagl o gwbl. Nid oes yn rhaid casglu unrhyw dalebau neu gwponau. Nid oes unrhyw lenyddiaeth hysbysebu masnachol wedi’i hamgáu â’r mapiau. Ni fyddwn ni’n defnyddio’ch manylion cyswllt at unrhyw ddiben ar wahân i weinyddu’r cynllun.

Nôl i'r brig

Pam mae angen cyfeiriad e-bost?

Mae angen cyfeiriad e-bost dilys er mwyn anfon cadarnhad o’ch archeb atoch, ac yn ddiweddarach byddwch chi’n cael gwybod pan fydd eich mapiau’n cael eu hanfon. Felly, mae’n bwysig iawn eich bod chi’n darparu cyfeiriad e-bost dilys.

Nôl i'r brig

Alla’ i gael mapiau wedi’u lamineiddio?

Nid yw’n bosib i ni gyflenwi mapiau wedi’u lamineiddio yn rhad ac am ddim. Os ydych chi am gael mapiau wedi’u lamineiddio i’r ysgol, yna cysylltwch ag un o’n Canolfannau Mapio a Data yr Arolwg Ordnans; fe fyddan nhw’n falch o ddarparu dyfynbris am y gwasanaeth hwn. Gallwch weld rhestr lawn o Ganolfannau Mapio a Data yr Arolwg Ordnans yn www.ordnancesurvey.co.uk/mdc. Fodd bynnag, nid ydyn ni’n argymell lamineiddio unrhyw rai o’r mapiau sy’n cael eu dosbarthu i’r disgyblion. Eu copïau personol nhw yw’r rhain, ac nid oes angen eu diogelu er mwyn i’r ysgol allu eu defnyddio yn y dyfodol.

Nôl i'r brig

Pan rydw i’n ceisio archebu fy mapiau, mae’r system archebu’n gwrthod derbyn nifer y disgyblion rydw i wedi’i nodi.

Cynlluniwyd ein cronfa ddata i dderbyn y niferoedd disgwyliedig arferol o ddisgyblion, wedi’i seilio ar ffigyrau o archebion blynyddoedd blaenorol neu o gronfeydd data’r Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd. Os bydd nifer y disgyblion blwyddyn 7 sy’n dechrau yn eich ysgol yn cynyddu’n sylweddol yn sydyn, yna bydd eich archeb yn cael ei gwrthod. Bydd angen ichi ffonio’r llinell gymorth, a fydd yn gallu newid eich manylion i’ch galluogi i gwblhau’r archeb. Byddwch yn barod i esbonio’r rheswm am y newid yn niferoedd y disgyblion er mwyn i ni allu cofnodi hyn yn y system.

Nôl i'r brig

A yw fy ngrŵp sgowtiaid/geidiaid yn gymwys?

Nac ydynt. Ysgolion sydd â disgyblion Blwyddyn 7/Primary 7 yn unig sy’n gymwys i archebu. Fodd bynnag, mae yna daflenni rhad ac am ddim ar gael i’w lawrlwytho o’n gwefan.

Nôl i'r brig


Mae gen i blant â nam ar eu golwg yn fy nosbarth. A fedra’ i gael copïau wedi’u mwyhau o’r mapiau ar eu cyfer?

Yn anffodus, ni allwn ni gyflenwi mapiau wedi’u mwyhau fel rhan o’r cynllun, ond mae’n bosibl i’r plant hynny weld yr un mapiau ar raddfa 1:25 000, yn rhad ac am ddim ar-lein gan ddefnyddio Get-a-map ar wefan yr Arolwg Ordnans. Er mai ardal fach o’r map sydd i’w gweld, gallwch ei mwyhau trwy gopïo’r ardal sydd ei hangen i mewn i raglen Paint a’i hargraffu, os oes angen, ar y raddfa fwy, er y bydd y ddelwedd llawer yn fwy siarp os caiff ei defnyddio ar y sgrîn.

I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, sy’n rhad ac am ddim, ewch i www.ordnancesurvey.co.uk/getamap

 

Nôl i'r brig


Alla’ i gael dogfennaeth yn Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg?

Cliciwch y blwch ticio ar dudalen 3 o 4 y dudalen archebu, i wneud cais i gael y lenyddiaeth a ddaw gyda’r mapiau yn Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg

Nôl i'r brig


6. Dogfennau cyfieithu Cymraeg

Llythyr rhestr wirio a chysylltwyr (PDF 109kb)

Llythyr dosbarthedig (PDF 59kb)

Llythyr Rhieni (PDF 97kb)

Darllen Map Heb Drafferth (PDF690kb)

Printio'r Tudalen

© Hawlfraint y Goron 2008.